Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol Cymru
Gan weithio gyda chydweithwyr yng Ngrŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, mae Canolfan Ranbarthol Arbenigedd (RCE) Cymru a Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi creu Grŵp Ymchwil ac Arloesi’r Economi Gylchol (CERIG) i Gymru.
Mae symud tuag at economi gylchol yn galw am agwedd amlddisgyblaethol, gan gynnwys ymchwil ac arloesi mewn meysydd megis: dylunio cynnyrch ar gyfer ailwampio ac ailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd ac echdynnu adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy’n annog gweithgynhyrchwyr i ddylunio cynnyrch am hirhoedledd; datblygu safonau priodol a threfniadau llywodraethu; ac ymchwilio i sut gallwch gyfleu cyfleoedd a heriau’r economi gylchol.
Dim ond drwy gyfuno arbenigedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gallwn fynd i’r afael â’r newid i systemau y mae ei angen i wneud yr economi gylchol yn realiti.
Mae gennym lawer o arbenigedd ym Mhrifysgolion Cymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â heriau’r economi gylchol.
Nod arfaethedig y grŵp yw ‘cysylltu arbenigedd cyflenwol a phrofiadau i hwyluso arloesedd ac ymchwil yr economi gylchol yng Nghymru.
Mae’r grŵp yn ceisio:
• Darparu fforwm i rannu arfer da a hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng y byd academaidd, busnesau a llunwyr polisi.
• Drwy gydweithio, cynyddu gallu ymchwil yr economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
• Ymgysylltu â diwydiant i ddatblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
• Darparu tystiolaeth i gyfeirio polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth.
• Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso cyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
• Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi datblygiad partneriaethau rhyngwladol.
• Cydweithio ar ddatblygu’r cwricwlwm a hyfforddiant.
• Gweithio gyda rhwydwaith y Ganolfan Ymchwil Rhanbarthol Fyd-eang (wedi’i gydnabod gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig) i rannu dysgu ac arfer da ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae CERIG yn galluogi busnesau i gael mynediad yn effeithiol ac yn effeithlon i arbenigedd a gwybodaeth berthnasol ledled byd academaidd Cymru.
Podlediadau yr economi gylchol ar gael:
Cyswllt
Yr Athro Gavin Bunting
Prifysgol Abertawe
g.t.m.bunting@swansea.ac.uk
Cyswllt
Twitter – @CERI_Cymru