Prifysgolion a Cholegau Iach

Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru

Prifysgolion a Cholegau Iach

Gweithio tuag at Gymru Iachach a Mwy Cynaliadwy

Beth yw’r rhwydwaith?

Mae RCE Cymru yn annog cydweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy ymysg cymunedau dysgu yng Nghymru a’r byd ehangach. Mae’n ceisio cysylltu’r rheini mewn gwahanol sefydliadau, sectorau a gwasanaethau cyhoeddus â nod gyffredin – lles cenhedlaeth y presennol a’r dyfodol. Mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sefydlwyd rhwydwaith neu gylch diddordeb Colegau a Phrifysgolion Iach a Chynaliadwy. Mae’r cylch diddordeb hwn yn ceisio denu’r rheini yn ein cymunedau prifysgol a choleg niferus o bob rhan o Gymru a thu hwnt i weithio gyda’i gilydd tuag at wneud gwahaniaeth i iechyd a chynaliadwyedd pobl Cymru a’r byd ehangach.

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Yng Nghymru mae gennym gyfle gwell na’r mwyafrif i wneud gwahaniaeth. Mae’r rhwydwaith Colegau a Phrifysgolion Iach a Chynaliadwy yn rhoi cyfle i adeiladu ar ddatblygiad lleoliadau iach blaenorol llwyddiannus yng Nghymru. Mae Ysgolion Iach Cymru a chynlluniau cyn-ysgol a sefydlwyd rai blynyddoedd yn ôl yn rhoi iechyd yng nghanol yr agenda i blant yng Nghymru a gall dull tebyg ar gyfer prifysgolion a cholegau wneud yr un peth i bobl ifanc a phawb sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd dysgu. Datblygodd y cynllun Ysgolion Iach gyfres o safonau o amgylch ystod eang o bynciau iechyd y cafodd ysgolion yng Nghymru eu mesur yn eu herbyn. Roedd y cynllun nid yn unig yn gwella’r cyfleusterau a’r ddarpariaeth ar gyfer iechyd mewn ysgolion ond trwy annog ysgolion i gymryd cyfrifoldeb am gynnal a darparu ar gyfer iechyd pawb a ddysgodd, a weithiodd, a chwaraeodd yno, roedd nid yn unig yn dysgu plant am sut i fyw bywydau iachach ond roedd hefyd yn galluogi disgyblion a staff i gymryd rhywfaint o reolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol a ddylanwadodd ar eu hiechyd. Mae’r plant ysgol hynny yn dod yn bobl ifanc nawr ac mae llawer ohonyn nhw wedi mynd i, neu bydd yn mynd ymlaen i astudio mewn addysg bellach ac uwch. Mae nifer ohonyn nhw yn un neu fwy o’r 23 prifysgol a choleg yng Nghymru. Mae’r sector addysg bellach ac uwch yn fawr yng Nghymru – mae mwy na 275,000 o fyfyrwyr yn astudio yng Nghymru ar unrhyw un adeg ac mae mwy na 30,000 o bobl yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol mewn addysg bellach ac uwch yma. Mae hyn yn darparu rheswm cymhellol dros ddatblygu’r dull lleoliadau iach ymhellach yn ein prifysgolion a’n colegau.

Felly beth sy’n gwneud prifysgol iach neu goleg iach?

Mae Prifysgolion Iach y DU yn diffinio hwn fel man lle mae prifysgol neu goleg yn mabwysiadu dull cyfannol, systemau cyfan o iechyd. Mae hyn yn cynnwys ceisio creu amgylchedd dysgu a diwylliant sefydliadol a rennir lle cydnabyddir bod iechyd, lles a chynaliadwyedd cymunedau yn greiddiol i lwyddiant. Yn nodweddiadol, mae sefydliadau iach yn darparu lleoliadau cefnogol a chroesawgar, yn cynyddu proffil iechyd a chynaliadwyedd ac yn cysylltu ag, ac yn cyfrannu at, iechyd a lles y gymuned ehangach.

Fframwaith Colegau a Phrifysgolion Iach a Chynaliadwy Cymru

Yn dilyn y model ysgolion iach, mae grŵp o bobl o bob rhan o’r sectorau prifysgolion a cholegau ynghyd â llunwyr polisi o Lywodraeth Cymru ac arbenigwyr blaenllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd a datblygu Fframwaith Prifysgolion a Cholegau Iach Cymru. Mae’r Fframwaith yn darparu safonau arfer gorau mewn chwe maes pwnc iechyd; • Gweithgaredd Corfforol • Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol • Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau • Iechyd a pherthnasoedd personol a rhywiol • Bwyd iach a chynaliadwy • Amgylchedd cynaliadwy Mae chwe egwyddor graidd sy’n sail i’r safonau hyn ac sydd wedi’u cynnwys yn y fframwaith; • Cydraddoldeb ac amrywiaeth • Cyfranogi a grymuso • Partneriaeth • Dull system gyfan • Yn berthnasol i staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach • Defnyddio tystiolaeth, rhannu a dysgu Un o’r tasgau ar gyfer rhwydwaith Colegau a Phrifysgolion Iach a Chynaliadwy yw archwilio sut y gall weithio gyda rhwydweithiau a chyrff eraill yng Nghymru sydd â nodau ac amcanion a rennir gyda’r nod cyffredin o gael Cymru iachach a mwy cynaliadwy..

Cyswllt

Chris Deacy Prifysgol Metropolitan Caerdydd cdeacy@cardiffmet.ac.uk