Dydd Mawrth y 6ed o Dachwedd 2019
Trafod gwerth: Sut gall RCE Cymru greu gwerth i’n sefydliadau a i gymdeithas yng Nghymru.

‘Gwerth’ oedd ffocws y dydd a rhoddodd gyfle i gylchoedd diddordeb RCE Cymru ddod at ei gilydd am y tro cyntaf. Traddododd yr Athro Carol Adams o Brifysgol Durham gyflwyniad oedd yn procio’r meddwl ar ddechrau’r dydd ar ‘Beth yw ‘gwerth’?’. Gweithiodd mynychwyr mewn grwpiau, wedi’i hwyluso gan Mike Palmer, i drafod y cwestiynau canlynol:
- Beth yw ystyr gwerth yng nghyd-destun RCE Cymru?
- Beth mae hyn yn ei olygu i’ch cylch diddordeb?
- Allwch chi adnabod y prif heriau i’ch cylchoedd diddordeb?
- Sut gall un o’r heriau nodwyd gennych helpu eich cylch ddangos gwerth y cydweithio drwy RCE Cymru?
Arweiniodd hyn at drafodaeth ar sut i fynd i’r afael a’r heriau. Wnaethom ni ddim llwyddo i ateb y cwestiwn ar ‘beth yw gwerth’ yn llwyr ac mae hyn yn her i ni o hyd.
Mercher 7fed o Dachwedd 2019
Gwerth mewn rhannu – Prifysgolion yn dod at ei gilydd i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol
Pwrpas y digwyddiad hwn oedd dod â’r cylchoedd o ddiddordeb sy’n dechrau egino yn sgîl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y sector addysg uwch (AU) i sylw’r amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a’u gwahodd i ymuno â ni ar daith tuag at ffordd gydweithredol o weithio. Er nad yw’n ofynnol i’r sector addysg uwch gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol mae nifer yn y sector wedi’i chroesawu.

Fe gawsom sylwadau agoriadol gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac wedyn cyfres o gyflwyniadau gan y cylchoedd diddordeb oedd yn cynnwys:
- Prifysgolion a Cholegau Iach
- Cymunedau gwydn
- Dysgu ac Addysgu
- Iaith a Diwylliant
- Arloesi Economi Gylchol
- Presgripsiynau cymdeithasol
Cafwyd trafodaeth rhyngweithiol wedyn, wedi ei hwyluso gan y Gyfnewidfa Arfer dda oedd yn gyfle i fynychwyr ddysgu mwy am y cylchoedd diddordeb ac RCE Cymru. Adlewyrchodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar yr hyn a ddysgwyd yn ystod y dydd gan nodi bod sector Addysg Uwch Cymru yn ‘storfa anferthol o wybodaeth’, a bod angen cydweithio gydag eraill tu allan i’r sector er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch. Mi fydd hwn yn un o’r heriau i RCE Cymru wrth symud ymlaen.

Diolchiadau
Trefnwyd y digwyddiad gan Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ar ran yr Grŵp Addysg Uwch Cenedlaethau’r gyda chefnogaeth Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.