Gweledigaeth RCE Cymru
Mae RCE Cymru yn hwyluso cydweithio i ymchwilio, datblygu a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o gynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, ac mae’n ganolog i gyd-ddatblygu’r Gymru gynaliadwy a garem.
Mae RCE Cymru yn:
Hwyluso creu cymunedau cydlynol neu orbitau o ddiddordeb sy’n cael eu gyrru’n rhannol gan Grŵp Cenedlaethau’r Dyfodol Prifysgolion Cymru (HEFGG), gyda phob cymuned yn gweithio i’w chryfder a rhannu’r arbenigedd hwnnw fel bod cryfder unigol yn gryfder i bawb.
Datblygu ‘canolfan arbenigedd’ ar gyfer addysg am ddatblygu cynaliadwy a llesiant cenedlaethau’r dyfodol ar draws prifysgolion Cymru a fydd yn gweithio gyda’r cymunedau o ddiddordeb ar draws Cymru i ymchwilio a hyrwyddo dinasyddiaeth leol a byd-eang.
Gan ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – y nod datblygu cynaliadwy, y pedwar piler, y pum ffordd o weithio a’r saith nod llesiant a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i arwain a llunio gwaith y Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol ac i gyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Beth ydy RCE?
INTERGREIDDIO
Mae RCE yn ymrwymo amrediad o fudd-ddeiliaid sy’n cynnwys sefydliadau addysg uwch, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, gwyddonwyr, ymchwilwyr, amgueddfeydd, llywodraeth leol, busnesau, gwirfoddolwyr neu unigolion sy’n gweithio ym maes datblygiad cynaliadwy fel twf economaidd, datblygiad cymdeithasol a gwarchod yr amgylchedd, myfyrwyr a dysgwyr ar bob lefel.
CYDWEITHIO
Rhwydwaith o fudiadau ffurfiol ac anffurfiol presennol sy’n hwyluso dysgu ar gyfer ddatblygiad cynaliadwy mewn cymunedau yn lleol a rhanbarthol yw RCE. Mae’r rhwydwaith o CARs fyd-eang yn ffurfio’r Gofod Dysgu Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.
.
HIRDYMOR
Ffurfiodd rhwydwaith byd-eang o RCE yn 2003 gan Sefydliad Astudiaethau Datblygedig Cynaliadwyedd, Prifysgol y Cenhedloedd Unedig mewn ymateb i benderfyniad y Cenhedloedd Unedig i gyhoeddi Degawd Addysg Datblygiad Cynaliadwy (2005-2014). Ar hyn o bryd mae dros 150 o CARs wedi cael eu cydnabod yn swyddogol gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig yn fyd-eang.
Ysgrifenyddiaeth
Yn 2017 bu RCE Cymru trwy broses adfywio, i adlewyrchu’r datblygiadau a’r cyfrifoldebau newydd sydd wedi eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ar hyn o bryd, mae’r ysgrifenyddiaeth yn cynnwys tri sefydliad addysg uwch.

Dr. Einir Young
Prifysgol Bangor
Uwch-Gymrawd Ymchwil, Ysgol Hanes , Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Yr Athro Gavin Bunting
Prifysgol Abertawe
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cadeirydd Ymchwil Economeg Gylchol a Grŵp Arloesedd Cymru ac RCE Cymru

Chris Deacy
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Dynol: Iechyd, Diogelwch a Lles Galwedigaethol
Blog RCE
Ymgynghoriad ar ddiwygio system cyfrifoldeb cynhyrchwyr pecynnu’r DU
Ymateb gan Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol (CERIG) i Gymru Mae Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol (CERIG) i Gymru yn croesawu cyfle i wneud sylwadau ar yr Ymgynghoriad[…]
Read morePrifysgolion a Cholegau Iach – Gweithio tuag at Gymru Iachach a mwy Cynaliadwy
Mae Prifysgolion Iach DU (Healthy Universities UK) yn diffinio prifysgol neu goleg iach fel sefydliad sy’n mabwysiadu dull holistig, system lawn i iechyd. Mae hyn yn cynnwys edrych a chreu[…]
Read moreArloesedd Economi Gylchol yng Nghymru
Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi [1], tra bod nifer o’r adnoddau angenrheidiol ar[…]
Read more