Prifysgolion a Cholegau Iach – Gweithio tuag at Gymru Iachach a mwy Cynaliadwy

Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru

Mae Prifysgolion Iach DU (Healthy Universities UK) yn diffinio prifysgol neu goleg iach fel sefydliad sy’n mabwysiadu dull holistig, system lawn i iechyd. Mae hyn yn cynnwys edrych a chreu amgylchedd dysgu a diwylliant sefydliadol sy’n cael ei rannu lle mae iechyd, llesiant a chynaliadwyedd cymunedau yn cael eu hadnabod fel rhywbeth sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant. Mae prifysgolion iach nodweddiadol yn darparu awyrgylch groesawgar, cynyddu proffil iechyd a chynaliadwyedd ac yn cysylltu gyda, a chyfrannu at, iechyd a llesiant y gymuned ehangach.

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Yng Nghymru mae gennym gyfle gwych i wneud gwahaniaeth.  Mae grŵp rhwydwaith Prifysgolion a Cholegau Iach, wedi gwreiddio yng Nghanolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru, yn sefydlu er mwyn denu’r rhai sydd yn, neu wedi gysylltu gyda, y cymunedau niferus o brifysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt er mwyn cydweithio i wneud gwahaniaeth i iechyd a chynaliadwyedd pob Cymru a’r byd.  Mae’r grŵp yma yn rhoi cyfle i adeiladu ar ddatblygiad amgylchedd iach blaenorol yng Nghymru.  Sefydlwyd cynllun Cymreig ar gyfer Ysgolion Iach a chynlluniau cyn-ysgol nifer o flynyddoedd yn ôl gan roi iechyd yng nghanol yr agenda ar gyfer plant yng Nghymru a gall dull tebyg ar gyfer prifysgolion a cholegau wneud yr un fath i bobl ifanc a phawb sydd ynghlwm â’r amgylchedd dysgu.

Datblygodd y cynllun Ysgolion Iach cyfres o safonau o amgylch amrediad eang o bynciau iechyd roedd ysgolion yng Nghymru yn cael eu mesur.  Gwellodd y cynllun cyfleusterau a darpariaeth ar gyfer iechyd mewn ysgolion gan annog ysgolion i gymryd cyfrifoldeb dros gynnal a daprau iechyd i bawb oedd yn dysgu, gweithio, chwarae a byw yno.  Dysgodd plant am sut i fyw yn iachach yn ogystal â galluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth o rai agweddau o amgylchedd yr ysgol oedd yn effeithio eu hiechyd.  Mae’r plant ysgol yno’n troi yn bobl ifanc rŵan gyda nifer ohonynt wedi mynd, neu yn mynd i astudio ymhellach yn addysg bellach neu uwch.  Gyda nifer ohonynt mewn un neu fwy o’r 23 prifysgol neu goleg yng Nghymru.  Mae’r sector addysg uwch yn fawr yng Nghymru – mae dros 275,000 o fyfyrwyr yn astudio yng Nghymru ar unrhyw adeg a dros 30,000 o bobl yn cael eu cyflogi un ai yn addysg bellach neu uwch.  Mae hyn yn rhoi rheswm da dros ddatblygu’r dull amgylchedd iach yn ein prifysgolion a’n colegau.

Fframwaith Prifysgolion a Cholegau Iach Cymru

Yn dilyn y model o ysgolion iach, mae grŵp o bobl ar draws sectorau prifysgol a cholegau, ynghyd â gwneuthurwyr polisi o Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod at ei gilydd i ddatblygu Fframwaith Prifysgolion a Cholegau Iach Cymru.  Mae’r Fframwaith yn darparu safonau arfer da mewn chwe phwnc iechyd;

  • Ymarfer corff
  • Iechyd meddwl ac emosiynol a llesiant
  • Defnydd a cham-drin sylweddau
  • Iechyd personol a rhywiol a pherthnasau
  • Bwyd iach a chynaliadwy
  • Amgylchedd cynaliadwy

Mae chwe phrif egwyddor sy’n tanseilio’r safonau yma ac mae’r rhain wedi cael eu cynnwys yn y fframwaith;

  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Cyfranogiad a grymuso
  • Partneriaeth
  • Dull system gyfan
  • Yn berthnasol i staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach
  • Defnydd o dystiolaeth, rhannu a dysgu

Un o’r tasgau cyntaf ar gyfer y cylch diddordeb Prifysgolion a Cholegau Iach bydd i weld beth yw’r ffordd gorau i roi’r fframwaith ar waith.  Gallwch chi helpu neu hoffwch ddarganfod mwy?  Efallai bod gennych syniadau ar sut i roi’r fframwaith ar waith yn eich sefydliad neu efallai bod gennych ddiddordeb bod yn rhan o’r peth rhywsut.  Os felly, gyrrwch neges i mi ar cdeacy@cardiffmet.ac.uk neu well byth archebwch le yn un o’r digwyddiadau RCE Cymru yn yr hydref er mwyn dechrau gwneud gwahaniaeth.


Am yr awdur

Chris yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Aelod Siartredig o Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol.  Yn ogystal a bod yn rhan o ysgrifenyddiaeth RCE Cymru, mae hefyd yn aelod o grŵp llywio Prifysgolion Iach y DU.

Gadael Ymateb