Arloesedd Economi Gylchol yng Nghymru

Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru

Mae’r DU yn cynhyrchu 200 miliwn o dunelli o wastraff bob blwyddyn a chaiff bron i chwarter ohono ei anfon i safleoedd tirlenwi [1], tra bod nifer o’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer defnydd hanfodol megis cynhyrchu pŵer, cyfathrebu ac offer meddygol yn dod yn fwy prin. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi dod ar draws y sefyllfa lle y mae’n rhatach prynu argraffwr, peiriant golchi neu ffôn newydd ac ati yn hytrach na’u hatgyweirio neu eu diweddaru. Beth yw’r rheswm dros hyn? Un ateb i fynd i’r afael â’r gormodedd o wastraff a’r darfodiad hwn yw trawsnewid yr economi i fod yn gylchol lle y caiff cynhyrchion eu dylunio i sicrhau:
  • Eu bod yn para’n hirach
  • Y gellir eu diweddaru, eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio
  • Y gellir adfer ac ailgylchu’r deunyddiau cyfansoddol y maent yn eu cynnwys ar ddiwedd cyfnod y cynnyrch
Amcangyfrifwyd gan Sefydliad Ellen MacArthur a Rhaglen Gweithredu’r Cynllun Gwastraff y byddai’r manteision economaidd posibl o weithredu economi gylchol yng Nghymru yn creu £2bn y flwyddyn, ar gyfer y ddau sector canlynol: nwyddau cymhleth tymor canolig, e.e. ceir, offer electronig a pheiriannau; a nwyddau defnyddwyr a ddefnyddir yn aml, e.e. bwyd a diod, dillad a gofal personol[2]. Er mwyn symud tuag at economi gylchol, byddai dull amlddisgyblaethol yn ofynnol sy’n cwmpasu ymchwil ac arloesedd mewn meysydd megis: dylunio cynhyrchion ar gyfer ailwampio ac ailddefnyddio; datblygu deunyddiau newydd a chael gafael ar adnoddau defnyddiol o ddeunyddiau naturiol; datblygu modelau busnes newydd sy’n cymell y gwneuthurwr i ddylunio cynnyrch hir oes; ymchwilio i’r ffordd y gallwn gyfathrebu’r cyfleoedd a herio canfyddiadau economi gylchol. Dim ond drwy gyfuno arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau y gallwn fynd i’r afael â’r newid sydd ei angen yn y system i wireddu economi gylchol. Mae’r arbenigedd hwn yn bodoli mewn nifer o brifysgolion yng Nghymru a thrwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â’r heriau o gynnal economi gylchol. Felly gweithiais gyda chydweithwyr yn y Grŵp Addysg Uwch ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru, Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol (RCE) Cymru [3], Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn sefydlu’r Grŵp Ymchwil ac Arloesedd mewn Economi Gylchol yng Nghymru. Nod arfaethedig y grŵp yw cysylltu’r arbenigedd a’r profiadau ategol i hwyluso arloesedd ac ymchwil ar economi gylchol yng Nghymru, drwy gyflawni’r nodau canlynol:
  • Darparu fforwm i rannu arfer da ac i hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth rhwng academia, busnes a llunwyr polisïau.
  • Cydweithio er mwyn cynyddu’r capasiti ymchwil ar economi gylchol mewn sefydliadau yng Nghymru.
  • Ymgysylltu â diwydiant er mwyn datblygu ymchwil a arweinir gan ddiwydiannau.
  • Darparu tystiolaeth i lywio polisïau a rhaglenni’r Llywodraeth.
  • Datblygu fforwm ar-lein i hwyluso’r broses o gyfnewid arfer da, cyfleoedd ariannu, newyddion a digwyddiadau.
  • Arddangos allbynnau economi gylchol y rhwydwaith yn rhyngwladol, gan gefnogi’r broses o ddatblygu partneriaethau rhyngwladol.
  • Cydweithio ar y broses o ddatblygu cwricwlwm a darparu hyfforddiant ar ei gyfer.
  • Cydweithio â rhwydwaith y Ganolfan Arbenigedd Ranbarthol Genedlaethol (RCE) (fel y cydnabu Prifysgol y Cenhedloedd Unedig) i rannu dysgu ac arfer da ar lefel ranbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Cadeiriais gyfarfod cyntaf y grŵp ar 8 Mehefin, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r prifysgolion canlynol: Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru, Abertawe a’r Drindod Dewi Sant. Eglurodd Dr Andy Rees, Pennaeth Gwastraff, Llywodraeth Cymru, y sefyllfa gan ddarparu rhai ystadegau defnyddiol a oedd yn amlinellu adnoddau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesedd economi gylchol.
Bu’n gyfarfod cynhyrchiol, lle y gwnaethom drafod syniadau ar sut y gallwn gydweithio ar ymchwil, addysgu, cyfnewid gwybodaeth a llywio polisïau’r llywodraeth. O ran ymchwil, y farn gyffredinol oedd na ddylwn ganolbwyntio ar alw economi gylchol am gyllid ar gyfer ymchwil yn unig – gan fod gan economi gylchol gyfleoedd i ychwanegu newydd-deb ac amrywiaeth eang o feysydd ymchwil. Nodwyd hefyd fod angen i ni edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd y caiff economi gylchol ei chyfathrebu â diwydiannau a’r cyhoedd er mwyn annog arloesedd a newid. Yn benodol, cytunwyd ei fod yn bwysig cyfuno cystadleurwydd wrth gyfathrebu â diwydiannau, ynghyd â chanolbwyntio ar y sectorau sy’n bwysig i economi Cymru.  Gallai’r Safon Brydeinig ar gyfer Economi Gylchol, BS-8001, fod yn ffordd ddefnyddiol i ymgysylltu â chwmnïau a rhwydweithiau academia-diwydiant sydd eisioes yn bodoli megis ASTUTE ac i ddarparu llwybr sefydledig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth. Nod craidd y grŵp yw annog cydweithredu; caiff hyn ei hwyluso i gychwyn drwy ddarparu cyfeirlyfr o arbenigedd, fel y gall aelodau nodi cydweithredwyr posibl ar gyfer ymchwil yn hawdd. Yn ogystal, byddwn hefyd yn sefydlu bwletin e-bost yn rheolaidd a fforwm lle y gall aelodau drafod meysydd o ddiddordeb. Mae angen cymorth ysgrifenyddiaeth da i gadw grŵp fel hyn i weithio, ac mae Ann Stevenson o Brifysgol Caerdydd yn garedig wedi cynnig darparu hyn. I symud ymlaen, byddwn yn cynnal cyfarfod arall ar gyfer y grŵp yn yr hydref ac yn cynnal sesiynau yng Nghynhadledd RCE Cymru ar 8 o Dachwedd 2018, yng Nghaerdydd, lle y byddwn yn cynnal trafodaethau ysbrydoledig a chynhyrchiol gobeithio. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r Grŵp, neu os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Gavin Bunting ar g.t.m.bunting@swansea.ac.uk, 01792 602802.
[1] DEFRA, 2018. UK Statistics on Wastehttp://bit.ly/2ywicfl [2] Ellen MacArthur Foundation, 2013. Wales and the Circular Economy: Favourable system conditions and economic opportunitieshttp://bit.ly/wrapwalesce [3] Gweler erthygl Click on Wales yn: https://bit.ly/2toUXxH, am ragor o wybodaeth am y RCE.

Am yr awdur

Mae Dr Gavin Bunting yn Ddarlithydd Cyswllt ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Arloesedd ac Ymgysylltu yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Mae Gavin yn addysgu economi gylchol,dadansoddiad o’r cylch oes, deddfwriaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd ar lefel meistr a doethruol, gan ddefnyddio ei brofiadau tra’n gweithio gyda’r llywodraeth ar faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd. Mae diddordebau ei ymchwil yn cynnwys mesur effeithiau amgylcheddol cyfleoedd economi gylchol.

Gadael Ymateb