Hanes cryno Grŵp Bwyd Canolfan Rhanbarthol Arbenigedd Cymru ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru

Pan ddes i ar draws y syniad o Ganolfan Ranbarthol ar gyfer Arbenigedd addysg gynaliadwy – ac RCE – i Gymru yn 2008, roeddwn yn amheus iawn o’r acronym diweddaraf.  Roedd yn swnio mor fiwrocrataidd.  Ond wedyn, clywais Julie Bromilow o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn siarad am RCE roedd hi wedi ymweld ag yn Japan, a dechreuodd y posibilrwydd o fod yn rhan o rwydwaith byd-eang er mwyn datrys problem fyd-eang apelio.

Ar y pryd, roeddwn yn Swyddog Gwybodaeth yng Nghanolfan Organig Cymru yn Aberystwyth, yn trefnu i ysgolion ymweld â ffermydd a phrydau ysgol wedi’i gynhyrchu’n lleol ynghyd â’n nyletswyddau golygu arferol.  Roedd yn rhoi boddhad, ond roeddwn yn dyheu am fod yn rhan o rywbeth mwy, i gymharu ein gwaith gyda beth roedd eraill yn ei wneud, a gweld pa mor bell gallwn fynd.  Yn fwy na dim, roeddwn yn pendroni am beth yn union roedden i’n ei wneud.  Sut roedd ymweld â ffermydd i fod i newid unrhyw beth?  Pam roedd prosiectau prydau ysgol mor bwerus, tra roedd sefyll ar stondin mewn digwyddiad weithiau’n gallu bod mor ddiflas?  Meddyliais efallai byddai’r RCE yn gallu bod yn ffordd o ysgogi pethau.  Felly neidiais ar y cyfle i ymuno gyda’r is-grŵp oedd yn edrych ar addysg bwyd, ynghyd â Julie, Dr Jane Claricoates o ysgrifenyddiaeth yr RCE ym Mhrifysgol Abertawe a Dr David Skydomre o Brifysgol Glyndŵr.  Ein tasg gyntaf, yn 2011, oedd ‘sgwennu papur pynciol, oedd yn archwilio beth allai ‘addysg drawsnewidiol’ olygu yng nghyd-destun bwyd gan dynnu ar ein profiadau perthnasol yn ogystal â’r llenyddiaeth ymchwil.

Aethom ymlaen i drefnu digwyddiad yng Ngholeg Powys lle roeddem yn defnyddio ymbwyllo a thrafodaeth hamddenol i archwilio sut roedd myfyrwyr, darlithwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol i gyd yn perthyn i’r gadwyn fwyd.  Bwriad hyn oedd rhoi syniad o sut gall addysg bwyd fod yn effeithiol, drwy gysylltu gyda gwerthoedd a dealltwriaeth bresennol pobl.  Datgelodd y cyfoeth o’r profiad dynol sydd tu ôl i’r ffigyrau a ffeithiau am y system fwyd.

Myfyrwyr a staff yn trafod bwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth

In dilyn hyn, er ein bod wedi atynnu ambell aelod newydd ac yn parhau i gyfarfod am flwyddyn neu ddwy, dechreuodd y grŵp wasgaru.  Roedd salwch a newid swyddi yn rhan o hyn, ac efallai bod yr RCE yn rhy ymylol i’n swydd ddisgrifiadau amrywiol i gael y sylw roedd yn ei haeddu.  Er hyn, daeth yn amlwg bod y cysyniad canolog o gydweithio rhwng addysg uwch ac ymarferwyr yn un gwydn iawn, fel ein cwestiwn am beth sy’n gwneud addysg bwyd yn drawsnewidiol.  Newidiodd y Grŵp Bwyd i fod yn ymholiad oedd yn cael ei hystyried gan rwydwaith llac.

Yn 2014, galluogodd cyllid o Raglen Datblygu Wledig Cymreig i Ganolfan Organig Cymru i symud hyn i lefel newydd gyda phrosiect ymchwil gweithredol o’r enw Gwerthoedd Bwyd.  Daeth hyn ac ymchwil o seicoleg gymdeithasol a’i wneud yn berthnasol i addysg bwyd, a daeth yn amlwg ei fod yn ddull pwerus gan ddod a mewnwelediad newydd i nifer ohonom oedd yn gweithio yn addysg bwyd.  Yn ddiweddarach daeth yn sail i Faniffesto Bwyd Cymru sy’n cynnal y weledigaeth i’r system fwyd Cymreig sydd wedi ei ddal ynghyd ar werthoedd o ofal, tegwch a chydraddoldeb.

Roedd Gwerthoedd Bwyd yn enghraifft wych o ethos yr RCE, er nad oedd yn dechnegol yn rhan ohono.  Roedd yn gydweithrediad rhwng addysg uwch, rhwng Dr Sophie Wynne-Jones a’i chydweithwyr i ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna, ym Mangor, a’r gymdeithas ehangach, er enghraifft Canolfan Ymchwil Diddordeb Cyhoeddus, Canolfan Organig Cymru a nifer o sefydliadau anllywodraethol yn amrywio o Age Concern yng Ngwynedd i’r Synagog Unedig Diwygiedig yng Nghaerdydd.   Galluogodd cyfnewid cyfoethog ac ysbrydoledig rhwng academyddion ac ymarferwyr oedd yn fanteisiol i’r ddwy garfan.

Wrth ddysgu grwpiau a threfnu digwyddiadau cymunedol, fel rwy’n ei wneud, mae’n hawdd llosgi’r gannwyll ddau ben a cholli cymhelliant.  Mae’r cyswllt gydag ymchwilwyr yn dod a phersbectif ffres sy’n ein galluogi i fynd yn ddyfnach i’n hymarfer, a chael mwy o foddhad o’r hyn ydym yn ei wneud yn dda.  I academyddion, dwi’n dychmygu, eu bod yn cael boddhad bod yn rhan o brosiect sy’n dod a buddion yn syth a dangos yr egwyddorion damcaniaethol ar waith mewn bywyd bob dydd.  Ni lwyddodd y grŵp wneud cysylltiadau gyda’r rhwydwaith RCE byd-eang, mi fyddai hynny yn amlwg yn ychwanegu hyd yn oed mwy o werth i’r broses.

Mae’r Grŵp Bwyd yn segur ar hyn o bryd, ond mae ei waith yn byw ymlaen, ac mae gymaint mwy gallwn ei wneud.  Wrth i ysgolion Cymreig baratoi am ddiwygiad mawr o’r cwricwlwm ac wrth i Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ddechrau cymryd effaith, mae’r cyfleoedd yn anferth.  Gall RCE Cymru ar ei newydd wedd gynnig y cyfle ar gyfer rhagor o gydweithio ar addysg bwyd?  Darllenwch ein blog: https://foodesdgcwales.wordpress.com/ a chysylltwch gyda Jane Powell.


Am yr awdur 

Gweithiodd Jane Powell i Ganolfan Organig Cymru o 2000 hyd at 2015 ac erbyn hyn mae hi’n ymgynghorydd addysg lawrydd ac ysgrifen wraig.  Jane yw’r cydlynydd yng Nghymru ar gyfer LEAF Education, ac aelod o Grŵp Addysg Biosffer Dyfi, a golygydd Maniffesto Bwyd Cymru.  Mae hi’n byw yn ardal Aberystwyth ac yn rhan o brosiectau bwyd lleol gan gynnwys gardd yn y Brifysgol.  Ei gwefan yw www.foodsociety.wales.

Gadael Ymateb