Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru ar gyfer Cynaliadwyedd a Llesiant pobl heddiw a Chenedlaethau’r Dyfodol

Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru

Os nad yw hynny’n llond ceg dwn i ddim beth sydd. Efallai, wedi i chi ddarllen y blog hwn, y gallwch ein helpu i ddod o hyd i deitl mwy bachog. Fy enw i yw Einir Young, rwy’n Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf hefyd yn cadeirio Grŵp Addysg Uwch Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol (HEFGG)[1] sy’n cynrychioli pob sefydliad AU yng Nghymru. Ar ran y grŵp hoffwn gyflwyno ein cyd-fenter newydd a’ch gwahodd i gymryd rhan. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau sy’n arwain at ddwy gynhadledd, un ym Mangor ym mis Medi ac un arall yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd – digon o amser a gwybodaeth i benderfynu a ydych chi eisiau ymuno â ni neu beidio. Ar ôl gweithio gyda’n gilydd fel grŵp ers peth amser, penderfynom ei bod hi’n bryd rhoi egwyddorion y Ddeddf Llesiant ar waith, yn enwedig y pum ffordd o weithio. Dyma’r cwestiynau gododd ymysg ein gilydd:
  • Beth yw cyfraniad hirdymor y grŵp? Beth yw’r pwynt i ni gyfarfod o dro i dro i rannu’n syniadau? Beth sy’n digwydd i’r syniadau hynny? Beth sydd gennym i ddangos am ein hymdrechion?
  • Nid yw cyfarfod er mwyn ticio bocs yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud felly sut allwn ni osgoi syrthni sefydliadol a marweidd-dra a sicrhau fod ein grŵp ni’n berthnasol?
  • Mae cydweithio yn rhywbeth yr ydym yn anelu ato ond yn rhy aml mae’n sefydliadau’n cystadlu â’i gilydd; diffiniodd rhywun ‘cydweithio’ rhyw dro fel ‘gohirio casáu’n gilydd dros dro wrth chwilio am fwy o gyllid’. Cododd hynny wên yn ein mysg gan ein bod i gyd yn adnabod fod llygedyn o wirionedd yna. Sut felly y gallem ni gydweithio go iawn?
  • Mae integreiddio yn ddyhead arall – integreiddio’r hyn a wnawn yn hytrach na dilyn ein hamcanion ni ein hunain mewn sylos. Sut allwn ni wneud yn well?
  • Mae tynnu pobl i ymuno mewn yn syniad sy’n cario llawer o bwysau ond mae’n anodd ei gyflawni. Pwy ddylai fod yn rhan o’r grŵp? Pwy ddylai wneud beth? Pryd? Ble?
Wrth i ni ystyried y cwestiynau hyn fel grŵp yng Nghynhadledd Newid Ymddygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2017, heriodd Yvonne Jones o Brifysgol Abertawe (yr unig aelod craidd sy’n weddill o ysgrifenyddiaeth y RCE Cymru gwreiddiol), ni i adfywio Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (RCE Cymru) i adlewyrchu ein ffordd newydd o feddwl a’r syniadaeth y tu ôl i’r Ddeddf Llesiant. A dyma ni, ddeunaw mis yn ddiweddarach yn awyddus i ail-lansio RCE Cymru ar ei newydd wedd, yn barod i gyfrannu’n weithredol i rwydwaith rhyngwladol o dros 160 o grwpiau tebyg sy’n brysur yn cymhwyso amcanion cynaliadwyedd byd-eang i gyd-destun cymunedol lleol, gyda phwyslais ar les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae gan rwydweithiau’r RCE reolau penodol a’r ddwy reol aur yw i) bod rhaid i RCE gael ei arwain gan Brifysgol a ii) mae’n rhaid iddo ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Felly, rydym wedi dod â grŵp bach o dri o bobl ynghyd i weithredu fel Ysgrifenyddiaeth i ddelio ag adrodd ond mae’r gweddill yn hylif ac yn agored i awgrymiadau. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu nifer o gylchoedd o ddiddordeb ac yn chwilio am gyfranogwyr sydd â diddordeb. Hyd yn hyn mae’r grwpiau canlynol wedi dod i’r amlwg:
  • Yr economi gylchol (wedi’i gydlynu gan Dr Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe)
  • Prifysgolion a Cholegau Iach (wedi’i cydlynu gan Chris Deacy, Met Caerdydd)
  • Adfywio (wedi’i gydlynu gan Dr Sheena Carlisle a Tim Palazon, Met Caerdydd)
  • Addysgu a Dysgu (wedi’i gydlynu gan Dr Carolyn Hayles, Prifysgol Cymru, Drindod Dewi Sant)
  • Mae cyfathrebu yn thema drawsbynciol ac fe’i cydlynir gan fy nhîm ym Mangor.
Mae cylchoedd eraill ar y gweill:
  • Addysgu ar gyfer system fwyd well (Jane Powell)
  • Presgripsiynau Cymdeithasol (wedi’i gydlynu gan Nina Ruddle, Glyndŵr)
  • Iaith a Diwylliant (cydlynwyr i’w cadarnhau)
  • Seinfyrddau ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (Nina Ruddle a Dr Einir Young – yng ngogledd Cymru i ddechrau)
Felly i ateb ein pum cwestiwn gwreiddiol, dyma lle rydym ni arni: Ein gweledigaeth hirdymor yw creu strwythur gwirioneddol ar y cyd (credwn y bydd trefn yr RCE yn hwyluso hyn) i ddarparu ‘lle i feddwl’ ar gyfer cylchoedd o ddiddordeb i drafod eu heriau penodol, yn eu hamser eu hunain a’u ffordd eu hunain. Mater i bob grŵp yw penderfynu sut maen nhw’n rhoi trefn ar eu hunain a mesur llwyddiant. Bydd y cylchoedd o ddiddordeb yn darparu gofod ar gyfer sgwrs ddwy ffordd rhwng y grŵp RCE craidd a’r cylchoedd yn cynhyrchu llif cyson o syniadau newydd a darparu cyfleoedd ar gyfer croes-ffrwythloni syniadau rhwng y cylchoedd. Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu fel bo’r galw gan y grŵpiau eu hunain er mwyn osgoi diflastod. Rhaid i gydweithio gael ei seilio ar ymddiriedaeth ac mae hwn yn gyfle i archwilio, yn hollol rydd, sut y gall cyfangorff fod yn fwy effeithiol na chyfanswm y rhannau gwasgaredig. Nid cyllid i gecru drosto, nid oes targedau allanol. Nid oes pwysau i ymuno ac yn bwysicach fydd does dim cywilydd o ran methu – rydym yma i ddysgu gyda’n gilydd. Mae yna lawer o fentrau o gwmpas sy’n gysylltiedig â’r holl gylchoedd o ddiddordeb yn barod. Bu sawl ymdrech i orfodi sefydliadau i weithio gyda’i gilydd yn ‘oer’, heb ddigon o amser i sicrhau fod sylfeini o gyd ymddiried yn bodoli. Rydym yn gobeithio y bydd natur wirfoddol RCE Cymru drwy’r HEFGG yn hwyluso mwy o integreiddio a rhannu syniadau er mwyn goresgyn y tueddiad i gadw pethau i ni’n hunain a meddwl am bethau mewn termau ‘ni v. nhw’. Y newyddion da yw y gall unrhyw un a phawb gymryd rhan os dymunwch. Nid yw hwn yn glwb caeedig. Prif gymhwyster cael eich cynnwys yw bod gennych chi feddwl agored, agwedd bosib, meddwl creadigol a pharodrwydd i gymryd risg (lle gallai methu fod yn opsiwn) ac ymrwymiad i drio. Ond nid ydym yn chwilio am ferthyron chwaith – os ydych yn rhy brysur, dim problem. Dylai’r cyd-weitho gyda’r cylchoedd diddordeb ffitio mewn gyda’ch gwaith bob dydd neu fod yn rhywbeth ychwanegol fydd o fudd personol i chi o’ch gwirfodd. Mae cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig Cadwch eich llygad ar agor am gyfres o flogiau fydd yn esbonio dyheadau pob un o’r cylchoedd o ddiddordeb yn eu tro. Dwi’n aros yn eiddgar am donau o sylwadau ac adborth. 
[1] Enw gwreiddiol y grŵp oedd Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ond esblygodd i’w ffurf presennol mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru ddaeth i rym yn Ebrill 2016.

 

Am yr awdur

Dr Einir YoungDr Einir Young yw Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor. Mae ei thîm yn Y Lab Cynaliadwyedd yn rhan o Wasanaethau Canolog y Brifysgol ochr yn ochr â’r timau Cynllunio, Llywodraethant ac Adnoddau Dynol er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol i’r Brifysgol. Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithio â busnesau a sefydliadau sydd wedi eu dadrithio â’r meddylfryd fod ‘un maint yn addas i bawb’. Mae’n croesawu’r her o ddod o hyd i atebion effeithiol i faterion cymhleth ‘cynaliadwyedd’, gan ganolbwyntio ar greu ffyniant trwy barchu pobl a byw o fewn ffiniau adnoddau’r blaned. Yn ei barn hi, mae dyddiau ‘hen werthoedd y pwerus’ a’r rheoli oddi fry yn dod i ben ac mae’n croesawu’r rhwyddineb a’r ffresni sy’n dod yn sgil ‘gwerthoedd y grymoedd newydd’ sydd ynghlwm wrth weithgareddau torfol, tryloywder radicalaidd a rhywbeth mor syml ag ymddiried mewn pobl. Yn ei hamser hamdden mae cymryd cerdded o ddifri. Y cynllun ar hyn o bryd yw cwblhau Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Llechi Eryri; yn ddiweddar cerddodd o gwmpas Malta. Llinyn mesur llwyddiant ar gyfer unrhyw gyrchfan yw safon ac ansawdd y teithiau cerdded. Cymru sy’n fuddugol bob tro.

Gadael Ymateb