Perscripsiynu Cymdeithasol

Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru

Rhagnodi Cymdeithasol

Nod y rhwydwaith yw adeiladu’r dystiolaeth hanfodol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru. Ffordd o gysylltu pobl â chymorth anfeddygol, yn y gymuned, yw rhagnodi cymdeithasol.
Dyma’i amcanion:

Datblygu a chytuno trwy gonsensws ar flaenoriaethau ymchwil ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.

Hybu cysylltiadau rhwng ysgolheigion, ymarferwyr (sy’n rhannu diddordebau cyffredin ym maes rhagnodi cymdeithasol) a rhanddeiliaid eraill i gefnogi ceisiadau am grantiau ymchwil a gwerthuso a gynhyrchir ar y cyd, yn unol â’r blaenoriaethau ymchwil.

Hybu a datblygu trafodaeth feirniadol am flaenoriaethau ymchwil rhagnodi cymdeithasol trwy adeiladu rhwydwaith rhithwir sydd wedi’i gysylltu trwy’r e-bost a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Archwilio’r ffordd orau i ni werthuso rhagnodi cymdeithasol.

Cysylltu pobl leol (ysgolheigion, ymarferwyr, aelodau’r cyhoedd) a sefydliadau er mwyn annog ymgysylltu cymunedol a chyd-gynhyrchu wrth ddatblygu ymchwil ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.

Adeiladu adnodd ar y we ac adnoddau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol i hybu rhwydwaith ymchwil rhagnodi cymdeithasol.

Cysylltu â rhwydweithiau rhagnodi cymdeithasol y tu allan i Gymru i gyfnewid profiadau a chydweithio ar syniadau ymchwil newydd.

Cyswllt

Yr Athro Carolyn Wallace
Prifysgol De Cymru
carolyn.wallace@southwales.ac.uk

Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru

Mae WSSPR yn ysgol rithwir yng Nghymru gyfan sy’n anelu at ddatblygu methodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol.

LMae’r brwdfrydedd sy’n tyfu’n gyflym dros ragnodi cymdeithasol a’i botensial i ddylanwadu ar ddarparu gwasanaethau mewn gofal sylfaenol wedi rhagori ar y disgwyliad ond mae datblygiadu sylfaen o dystiolaeth a safonau ansawdd cadarn ar gyfer gwerthuso wedi olrhain (Lovell et al, 2017; Bickerdike et al, 2017).
Bydd WSSPR yn eistedd o fewn Canolfan PRIME Cymru o dan y thema ‘Gofal Di-dor yn Agosach at Gartref’, o fewn y pecyn gwaith ‘Gofal yn Agosach at Gymunedau’.
Am rhagor o wybodaeth:
Gwefan: http://www.wsspr.wales/
E-bost: wsspr@southwales.ac.uk
Trydar: @WSSPRCymru